Amos 9

Duw yn barnu

1Gwelais fy Meistr yn sefyll wrth yr allor, ac meddai fel hyn:

“Taro ben y colofnau nes bydd y sylfeini'n ysgwyd!
Bydd y cwbl yn syrthio ar ben yr addolwyr,
A bydda i'n lladd pawb sydd ar ôl mewn rhyfel.
Fydd neb o gwbl yn llwyddo i ddianc!
2Hyd yn oed tasen nhw'n cloddio i lawr i Fyd y Meirw,
byddwn i'n dal i gael gafael ynddyn nhw!
A tasen nhw'n dringo i fyny i'r nefoedd,
byddwn i'n eu tynnu nhw i lawr oddi yno.
3Petaen nhw'n mynd i guddio ar ben Mynydd Carmel,
byddwn i'n dod o hyd iddyn nhw, ac yn eu dal nhw.
A tasen nhw'n cuddio o ngolwg i ar waelod y môr,
byddwn i'n cael y Sarff
9:3 Sarff Roedd yr anghenfil mytholegol yma yn cynrychioli grymoedd anhrefn.
sydd yno i'w brathu nhw.
4Petai eu gelynion nhw yn eu gyrru nhw i'r gaethglud,
byddwn i'n gorchymyn i'r cleddyf eu lladd nhw yno.
Dw i'n hollol benderfynol o wneud drwg iddyn nhw
ac nid da.”
5Fy Meistr, yr Arglwydd, y Duw holl-bwerus,
ydy'r un sy'n cyffwrdd y ddaear ac mae'n toddi;
a bydd pawb sy'n byw arni yn galaru.
Bydd y ddaear gyfan yn codi fel yr Afon Nil;
yn chwyddo ac yna'n suddo fel yr Afon yn yr Aifft.
6Mae e'n adeiladu cartref iddo'i hun yn y nefoedd
ac yn gosod sylfeini ei stordy ar y ddaear.
Mae'n galw'r dŵr o'r môr
ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir
—yr Arglwydd ydy ei enw e!

7“I mi, bobl Israel, dych chi

ddim gwahanol i bobl dwyrain Affrica.”
9:7 dwyrain Affrica Hebraeg,  Cwsh, sef ardal i'r de o'r Aifft, yn cynnwys rhannau o Ethiopia a'r Swdan heddiw.


—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
“Mae'n wir fy mod i wedi arwain Israel o wlad yr Aifft,
ond fi hefyd ddaeth â'r Philistiaid o ynys Creta
a'r Syriaid o Cir.”
8Gwyliwch chi! Mae'r Meistr, yr Arglwydd,
yn cadw golwg ar y wlad bechadurus.
“Dw i'n mynd i'w dinistrio hi oddi ar wyneb y ddaear!
Ond wna i ddim dinistrio pobl Jacob yn llwyr,”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
9“Gwyliwch chi! Bydda i'n rhoi'r gorchymyn
ac yn ysgwyd pobl Israel, sydd yng nghanol y cenhedloedd,
fel mae rhywun yn ysgwyd ŷd mewn gogr,
a fydd dim cerrig mân yn disgyn trwodd.
10Bydd fy mhobl sydd wedi pechu yn cael eu lladd yn y rhyfel,
sef y rhai hynny sy'n dweud mor siŵr,
‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i ni,
na hyd yn oed yn dod yn agos aton ni.’

Adfer Teyrnas Dafydd

11Ar y diwrnod hwnnw, bydda i'n ailsefydlu
teyrnas Dafydd sydd wedi syrthio.
Bydda i'n trwsio'r bylchau ynddo ac yn adeiladu ei adfeilion.
Bydda i'n ei adfer i fod fel yr oedd yn yr hen ddyddiau.
12Byddan nhw'n cymryd meddiant eto
o'r hyn sydd ar ôl o wlad Edom,
a'r holl wledydd eraill oedd yn perthyn i mi,”

—meddai'r Arglwydd, sy'n mynd i wneud hyn i gyd.
13“Gwyliwch chi!” meddai'r Arglwydd, “Mae'r amser yn dod,
pan fydd cymaint o gnwd, bydd hi'n amser aredig eto
cyn i'r cynhaeaf i gyd gael ei gasglu!
A bydd cymaint o rawnwin, byddan nhw'n dal i'w sathru
pan fydd yr amser wedi dod i hau'r had eto.
Bydd gwin melys yn diferu o'r mynyddoedd c
a bydd yn llifo i lawr y bryniau.
14Bydda i'n dod â'm pobl Israel yn ôl i'w gwlad.
Byddan nhw'n ailadeiladu'r trefi sy'n adfeilion,
ac yn cael byw ynddyn nhw unwaith eto.
Byddan nhw'n plannu gwinllannoedd ac yn yfed y gwin.
Byddan nhw'n trin eu gerddi ac yn bwyta'r ffrwythau.
15Bydda i'n plannu fy mhobl yn eu tir eu hunain,
a fydd neb yn eu diwreiddio nhw
o'r wlad dw i wedi ei rhoi iddyn nhw.”

—yr Arglwydd, eich Duw chi, sy'n dweud hyn.
Copyright information for CYM